Pa ddata o’r NSS y gellir eu defnyddio at ddibenion marchnata?

 

Efallai y bydd prifysgolion a cholegau’n dymuno defnyddio eu canlyniadau NSS mewn deunyddiau marchnata, i hyrwyddo cyrsiau neu’r darparwr yn gyffredinol. Caniateir hyn, ond ceir nifer o gyfyngiadau sy’n ddibynnol ar y math o ddata a rennir a’i ansawdd.

Mae’n rhaid glynu wrth y trothwyon cyhoeddi (cyfradd ymateb o o leiaf 50% ac o leiaf deg o fyfyrwyr) ar bob lefel. Ni ddylid cyhoeddi unrhyw ganlyniadau sydd o dan y trothwy hwn.

Gellir defnyddio canlyniadau’r NSS o ddata a gyhoeddwyd, sef canlyniadau’r cwestiynau craidd ac ychwanegol sydd ar gael ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr (ar lefel sefydliad a’r Hierarchaeth Cydgasglu Cyffredin) a’r wefan Darganfod Prifysgol (ar lefel cwrs), mewn deunyddiau marchnata a’u priodoli i’r NSS, ar yr amod fod y trothwyon cyhoeddi a grybwyllir uchod wedi’u bodloni.

Mae canlyniadau’r NSS o ddata sydd heb eu cyhoeddi, nad ydynt ond ar gael ar borth data NSS CACI Ltd, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau gan ddibynnu ar y math o ddata ac ansawdd y data sy’n cael eu rhannu. Canlyniadau’r cwestiynau craidd ac ychwanegol na wnaethant gyrraedd y trothwy cyhoeddi, y sylwadau ar ffurf testun agored, cwestiynau o fanciau dewisol a’r cwestiynau sefydliad-benodol ar lefel cwrs yw’r rhain. Gall y canlyniadau o ddata’r NSS sydd heb eu cyhoeddi fel cwestiynau o fanciau dewisol neu gwestiynau darparwr-benodol, gael eu defnyddio mewn deunyddiau marchnata, ond ni ellir priodoli’r rhain i’r NSS.  Fodd bynnag, ni ddylid defnyddio sylwadau ar ffurf testun agored mewn deunyddiau cyhoeddus er mwyn cadw myfyrwyr yn ddienw. Dim ond aralleirio sylwadau ar ffurf testun agored y gellir ei wneud mewn deunyddiau cyhoeddusrwydd, a hynny cyn belled â nad ydynt yn datgelu pwy yw unrhyw unigolion ac nad ydynt yn cael eu priodoli i’r NSS. Rhaid bodloni’r trothwyon cyhoeddi a grybwyllir uchod ar gyfer y garfan y bydd ei chanlyniadau’n cael eu cyhoeddi.