NSS 2024
Ymunwch â’r 5.3 miliwn o fyfyrwyr sydd wedi rhannu eu barn ac wedi helpu i ysbrydoli newid mewn prifysgolion a cholegau ers lansio’r arolwg yn 2005.
Yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) yw eich cyfle i edrych yn ôl ar eich profiad o addysg uwch a siarad am bopeth, o’r addysgu ar eich cwrs, mynediad at adnoddau ac offer, a hyd yn oed llais y myfyriwr.
Gall eich barn wneud gwahaniaeth. Gyda’ch adborth, gallai eich prifysgol neu eich coleg wneud newidiadau i wella eu cyrsiau ar gyfer myfyrwyr yn y dyfodol.
A gan fod yr NSS yn arolwg swyddogol ledled y DU, gall unrhyw un sy’n meddwl am wneud cais i brifysgol weld beth oedd myfyrwyr fel chi yn meddwl am eich cwrs trwy blatfform o’r enw Darganfod Prifysgol – fel y gallant wneud gwell penderfyniadau am le i astudio.
Cofiwch, mae’r NSS yn ddienw – ni fydd eich prifysgol neu eich coleg yn gweld eich ymatebion felly gallwch roi eich adborth gonest ac agored.
Rydym eisiau eich barn. Eich NSS chi ydyw.
Ar agor rhwng 8 Ionawr tan 30 Ebrill 2024.