Ynglŷn â’r NSS
Beth yw’r NSS?
Gwahoddir bron hanner miliwn o fyfyrwyr ledled y DU i gymryd rhan yn yr Arolwg Cenedlaethol i Fyfyrwyr (NSS) bob blwyddyn.
Yr NSS yw eich cyfle i roi eich adborth gonest am sut beth oedd astudio ar eich cwrs yn eich prifysgol neu eich coleg. Caiff ei gyhoeddi bob blwyddyn ac mae’n ffynhonnell gyfoethog a dylanwadol o wybodaeth am addysg uwch. Mae’r arolwg yn gydran allweddol o’r sicrwydd ansawdd a’r dirwedd reoliadol ehangach ym maes addysg uwch y DU.
Fel myfyrwyr, mae gennych lais cyfunol pwerus a fydd yn helpu i lywio dyfodol eich cwrs a’ch prifysgol/coleg ar gyfer myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr.
Caiff yr arolwg ei gwblhau gan fyfyrwyr blwyddyn olaf yn y canlynol:
- Pob prifysgol a choleg addysg uwch a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban
- Colegau addysg bellach yn Lloegr a Gogledd Iwerddon
- Sefydliadau addysg bellach (SABau) yng Nghymru (gyda myfyrwyr addysg uwch a ariennir yn uniongyrchol)
Pwy sy’n elwa ar yr NSS?
Mae eich adborth o’r NSS yn darparu prifysgolion neu golegau â darlun o sut beth oedd y profiad dysgu i chi fel myfyriwr presennol. Mae prifysgolion a cholegau, ac undebau myfyrwyr (cymdeithasau neu urddau) yn edrych ar y data NSS dienw i ddeall beth maent yn ei wneud orau, a beth sydd angen newid. Gellir defnyddio eich barn i helpu i wneud newidiadau a fydd yn gwella’r profiad dysgu. Yn ehangach, mae’r NSS yn rhoi gwybodaeth bwysig i bedwar corff rheoleiddio a chyllido addysg uwch y DU – Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr), Adran yr Economi yng Ngogledd Iwerddon (DfENI) a Chyngor Cyllido’r Alban (SFC).
Mae canlyniadau’r NSS hefyd ar gael yn gyhoeddus ar y chwiliwr cyrsiau israddedig Darganfod Prifysgol. Gall darpar fyfyrwyr sy’n ystyried addysg uwch yn y DU a’u teuluoedd ganfod beth oedd myfyrwyr fel chi yn ei feddwl am unrhyw gwrs, i’w helpu i benderfynu beth i astudio ac ymhle. Mae Darganfod Prifysgol yn caniatáu darpar fyfyrwyr i gymharu cyrsiau addysg uwch mewn gwahanol brifysgolion a cholegau.
Mae prifysgolion a cholegau hefyd yn defnyddio’r canlyniadau i wella profiad dysgu’r myfyriwr a chaiff y data ei gyhoeddi ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS).
Cyfrinachedd
Caiff yr NSS ei gomisiynu gan y Swyddfa Fyfyrwyr (OfS), ar ran cyrff cyllido a rheoleiddio’r DU – Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Medr), Adran yr Economi Gogledd Iwerddon (DfENI), a Chyngor Cyllido’r Alban (SFC).
Mae’r NSS yn cael ei gynnal yn annibynnol gan Ipsos. Mae’r arolwg yn parchu preifatrwydd y myfyrwyr sy’n cymryd rhan, ac felly, mae ymatebion unigol yn gyfrinachol. Cyfeiriwch at yr adran ‘Math o gwestiynau a ofynnir’ yn y Cwestiynau Cyffredin am ganllawiau ar gadw eich cyfrinachedd chi ac eraill yn y sylwadau testun agored.
Am fwy o wybodaeth, yn ogystal â chymorth gydag ymholiadau penodol, gweler ein Cwestiynau Cyffredin.